Description
Mae chwech disgybl cwrs trochi Ysgol Uwchradd Glan y Gors yn mynd ar drip ysgol i wersyll Coed Daniel. Ond nhw ydi''r unig ddosbarth sy''n llwyddo i gyrraedd pen y daith. Mae''r criw yn gaeth yn y gwersyll, mae''r goedwig gyfagos yn llawn bwystfilod, ac mae eu hathrawes yn sâl. A fedran nhw weithio gyda''i gilydd er mwyn achub ei bywyd hi a ffoi rhag y gelyn anfarwol?
