Description
Darganfyddwch lyfr arbennig iawn sydd wedi dal calonnau miliynau o ddarllenwyr ledled y byd. Wedi'i addasu o un o lyfrau mwyaf adnabyddus y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Cofia Hyd Byth: Y Bachgen, y Wahadden, y Llwynog, y Ceffyl a'r Storm yn fynegiant o gyfeillgarwch, caredigrwydd a thosturi rhwng pedwar cydymaith annhebygol yn ystod amseroedd ansicr ac ofnus. Yn llawn lluniau a thestun hardd, a grewyd yn wreiddiol gan Charlie Mackesy ac sydd bellach wedi'i gyfieithu i'r Gymraeg gan Mererid Hopwood.Mae'r testun unigryw hwn wedi taro tant darllenwyr ledled y byd gyda'i wersi bywyd tyner sy'n ein atgoffa o bwer cyfeillgarwch yng nghanol byd blithdraphlith.
