{"product_id":"9781837721207","title":"Trawsffurfio'r Seintiau : Llawysgrif Yale o Fucheddau'r Saint by David Callander","description":"Yn anaml iawn y daw ffynonellau newydd ar gyfer y Gymru ganoloesol gynnar i'r amlwg. Ond dyma a geir yn llawysgrif Yale, Llyfrgell Beinecke, Osborn fb229 - llawysgrif modern cynnar sy'n drysorfa o destunau hagiograffaidd. Ei thrysor mwyaf yw ei fersiwn unigryw o Fuchedd Cybi, a all gynnwys elfennau mor gynnar ?'r ddegfed neu'r unfed ganrif ar ddeg, gan gyflwyno tystiolaeth gwbl newydd am Gybi a'i gwlt canoloesol. Nid am ei chopi o Fuchedd Cybi yn unig y mae'r gyfrol hon yn arwyddocaol. Fe ddengys yn ogystal sut yr aethpwyd ati i addasu gweithiau megis Buchedd Beuno a Buchedd Collen yn yr Oesoedd Canol diweddar a'r cyfnod modern cynnar; tystia i weithgarwch rhwydweithiau Catholig ac unigolion megis Edward Morgan o Lys Bedydd, offeiriad Catholig a greodd y cyfieithiad unigryw o Fuchedd Gwenfrewy yn y llawysgrif hon, ac a ddienyddiwyd maes o law. Diogelwyd y testunau hyn oll gan ysgrifydd amryddawn y llyfr, Robert Davies o Wysanau, Sir y Fflint, a chawn gyflwyniad i'w fywyd, ei weithgarwch a'i ddiddordebau eang.\u003cbr\u003eBinding: Paperback \/ softback","brand":"Gardners","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":56307906543989,"sku":"9781837721207","price":24.99,"currency_code":"GBP","in_stock":false}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0612\/7193\/3106\/files\/9781837721207.jpg?v=1762805743","url":"https:\/\/backstory.london\/products\/9781837721207","provider":"Backstory","version":"1.0","type":"link"}