{"product_id":"9781786836502","title":"Darllen y Dychymyg : Creu ystyron newydd i blant a phlentyndod yn Llenyddiaeth y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg by Siwan M. Rosser","description":"Erbyn hyn, mae llyfrau i blant ymhlith gwerthwyr gorau'r diwydiant cyhoeddi ac yn rhan ganolog o addysg pob plentyn yng Nghymru. Ond prin yw'r sylw beirniadol a gafodd hanes a datblygiad llenyddiaeth plant yn y Gymraeg. Mae'r gyfrol hon yn mynd i'r afael a'r tawelwch hwnnw ynghylch llenyddiaeth plant yn ein hanes cenedlaethol, gan ddadlau dros ei harwyddocad cymdeithasol a diwylliannol. Drwy fanylu ar ddechreuadau llyfrau a chylchgronau i blant yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, dengys y gyfrol hon fod llenyddiaeth plant yn hanfodol bwysig er mwyn deall sut mae syniadau ac agweddau'n cael eu trosglwyddo a'u trawsffurfio. Ymdrinnir yn bennaf ag agweddau tuag at blant a phlentyndod, gan olrhain y modd yr esblygodd y cysyniadau hynny o dan bwysau trawsnewidiadau economaidd a diwyllianol yr oes. Yng ngoleuni cysyniadau beirniadol Pierre Bourdieu a Michel de Certeau, archwilir y ffactorau oedd cyflyru awduron i ysgrifennu ar gyfer plant yn y lle cyntaf, a'r hyn oedd yn siapio eu hagweddau tuag at eu darllenwyr ifainc. Drwy wneud hynny, mae'r astudiaeth hon yn gosod carreg sylfaen ar gyfer astudio llenyddiaeth plant yn y Gymraeg a'i pherthynas a'i hamgylchfyd hanesyddol a diwylliannol.\u003cbr\u003eBinding: Paperback \/ softback","brand":"Gardners","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":56305726423413,"sku":"9781786836502","price":19.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0612\/7193\/3106\/files\/9781786836502.jpg?v=1762798300","url":"https:\/\/backstory.london\/products\/9781786836502","provider":"Backstory","version":"1.0","type":"link"}